Prin yw’r wybodaeth am lawer o fioleg ac ecoleg y 27 rhywogaeth o elasmobranchiaid sy’n bresennol yn nyfroedd Cymru. Cafwyd gwelliant o safbwynt deall y rhywogaethau sydd wedi’u targedu’n fasnachol, ond prin iawn yw’r data o hyd ynglŷn â’r 18 rhywogaeth arall, yn cynnwys 10 sy’n cael eu cynnwys yn Adran 7 rhestr rhywogaethau Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
Heb ddata’n ymwneud â dosbarthiad, digonedd, tymoroldeb, nodweddion hanes bywyd a chynefinoedd cysylltiedig, anodd iawn fydd diogelu’r rhywogaethau yma.
Olrhain Cŵn Glas
Gan gydweithio â physgotwyr lleol, mae Prosiect SIARC wedi dechrau prosiect ymchwil newydd i ddeall mwy am symudiadau Cŵn Glas – rhywogaeth sydd mewn perygl – yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (ACA PLAS). Rydym wedi gosod rhwydwaith newydd o angorfeydd gwyddonol+ yn ACA PLAS a fydd yn cofnodi symudiadau 30 o gŵn glas, drwy gyfrwng tagiau acwstig, dros y 12-18 mis nesaf. Nod yr ymchwil hwn yw rhoi dealltwriaeth i ni o’r prif ardaloedd a chynefinoedd a ddefnyddir gan gŵn glas o fewn yr ACA.
Mae’r broses dagio’n digwydd mewn ffordd sy’n sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar y siarc ac fe’i gwneir gan wyddonydd hyfforddedig o dan drwydded*.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill, anfonwch e-bost atom ar siarc@zsl.org
+Cafodd angorfeydd eu gosod gyda chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ac o dan drwydded gan Ystâd y Goron
* Cynhelir y broses dagio gan berson cymwys, awdurdodedig a thrwyddedig o dan Drwydded Prosiect yn unol â’r Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), a awdurdodwyd gan y Swyddfa Gartref.
Rydym angen eich help i gynorthwyo gyda'r ymchwil:
Ydych chi wedi dal ci glas? Edrychwch am dag adnabod ac adroddwch y rhif i siarc@zsl.org ynghyd â’r dyddiad, amser, a lleoliad (lledred / hydred).
Os yw’n ddiogel i chi wneud, tynnwch lun o’r safle’r tag acwstig fel y gallwn edrych i weld sut mae croen y siarcod yn gwella ar ôl cael ei dagio.
Dilynwch y canllawiau arfer gorau i drin a rhyddhau’r siarc yn ddiogel ac, os yw’n bosibl, osgoi ei dynnu i’r cwch.
Ble mae'r tagiau ar y siarc?
Mae’r tag acwstig yn cael ei osod y tu mewn i geudod corfforol y ci glas. Mae gosod y tag y tu mewn i geudod y corff yn sicrhau nad yw’n cael ei golli ac mae’n atal biolygru (twf algâu ac anifeiliaid bach) a all ddigwydd pan fydd tagiau’n cael eu gosod ar du allan y siarc. Mae tag adnabod gweledol coch bach i’w gael ar y tu allan o dan yr asgell ddorsal sy’n caniatáu i bysgotwyr nodi a ydynt wedi dal ci glas wedi’i dagio.
Sut mae'r tagiau'n gweithio?
Mae’r tag acwstig sydd wedi’i fewnblannu ym mhob ci glas yn trawsyrru pwls sain unigryw bob 3 munud. Mae’r pylsau sain hyn yn cael eu ‘clywed’ gan synwyryddion ar yr angorfeydd gwyddonol pan fo’r ci glas o fewn tua 500m iddynt ac wedyn mae’n cofnodi rhif adnabod yr unigolyn. Trwy ddefnyddio rhwydwaith o 20 angorfa o fewn ACA PLAS gallwn wedyn olrhain symudiadau pob ci glas yn seiliedig ar amseriad cofnodion pob synhwyrydd.
Pa mor hir fydd yr angorfeydd yn y dŵr?
Bydd yr angorfeydd gwyddonol yn aros yn eu lle am flwyddyn cyn cael eu casglu i lawrlwytho data o’r synwyryddion. Mae 15 o’r synwyryddion ar angorfeydd sydd wedi’u nodi gan fwi arwyneb tra bod 5 synhwyrydd i’w cael ar angorfeydd ar wely’r môr ar ddyfnder o > 20 m. Mae lleoliadau pob synhwyrydd wedi’u nodi ar y siart isod.

Bottom mooring with no surface buoy

Tracking receiver

Surface buoys are marked “Project SIARC Research”
Pa mor hir mae'n ei gymryd i dagio siarc?
Mae’r broses o ddal a thagio siarc fel arfer yn cymryd dim mwy na 15 munud o’r amser y mae’r ci glas yn cael ei fachu i’r amser y caiff ei ryddhau. Yn ystod y broses hon, nid yw’r cŵn glas yn treulio mwy na 10 munud allan o’r dŵr, a defnyddir pwmp i redeg dŵr dros dagellau’r siarcod i roi ocsigen iddynt tra byddant allan o’r dŵr.
Alla i helpu gyda thagio cŵn glas?
Os ydych chi’n gapten cwch siarter sy’n gweithio’n agos at ACA PLAS a bod gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ar gyfer tagio cŵn glas yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Cysylltwch â ni ar siarc@zsl.org i drafod y posibilrwydd hwn. Yn anffodus, oherwydd ein trwydded ar gyfer gwaith tagio ni allwn weithio’n uniongyrchol gyda physgotwyr hamdden yn annibynnol ar gychod siarter, ac nid ydym ar hyn o bryd yn tagio cŵn glas sy’n cael eu dal o’r lan.
Pryd fydda i’n cael gwybod am ganlyniadau'r ymchwil?
Bydd angorfeydd gwyddonol yn cael eu casglu a bydd data o synwyryddion yn cael ei lawrlwytho yn Haf 2025. Bydd y data’n cael ei ddadansoddi wedyn, a bydd cyfarfodydd agored yn cael eu cynnal ym Mhwllheli ac Aberdyfi i gyflwyno canlyniadau’r ymchwil i bysgotwyr lleol, cymunedau, a defnyddwyr dŵr.
Digwyddiadau Dyrannu
Mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Ymchwil i Forfilod wedi Tirio (CSIP), Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ac Ysbyty Milfeddygol Coleg Prifysgol Dulyn (UCDVH), llwyddodd Prosiect SIARC i gynnal dau set o archwiliadau #CSIofTheSea ar bum Maelgi, yng Nghymru ac Iwerddon, i gasglu gwybodaeth fiolegol hanfodol am y rhywogaethau hyn sydd mewn perygl difrifol.
Er yn hynod anghyffredin, gall Maelgwn fynd yn sownd a marw ar draethau ar hyd yr arfordir. Gall archwiliadau post-mortem a dadansoddiad o samplau ddarparu data hanfodol yn ymwneud ag achos marwolaeth, iechyd yr unigolyn (yn cynnwys afiechyd a llygredd), diet, patrymau atgenhedlu, strwythur poblogaeth yn ogystal â chysylltedd â phoblogaethau eraill ledled Dwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.
Rhoddodd y digwyddiadau dyrannu gyfle anhygoel i gryfhau ac ehangu’r cydweithio presennol yng Nghymru ac Iwerddon, a thynnodd sylw at y nifer helaeth o sefydliadau sy’n gweithio tuag at warchod Maelgwn a rhywogaethau eraill o siarcod ar draws Ecoranbarth y Moroedd Celtaidd. Gyda’n gilydd, rydym yn gobeithio meithrin y gallu i gydweithio er mwyn gwarchod elasmobranciaid ar draws y rhanbarth.
Edrychwch ar ein blog newydd i ddarganfod mwy am yr archwiliadau #CSIofTheSea, a Gwyliwch ein fideo isod, i gael gwybod mwy am y gwaith sy’n digwydd yn Iwerddon.
Grŵp Ymchwil
Un o amcanion Prosiect SIARC yw galluogi partneriaethau newydd ac ymchwil cydweithredol drwy ddod â gwyddonwyr elasmobranciaid a chyrff anllywodraethol ledled Ecoranbarth y Moroedd Celtaidd at ei gilydd. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi datblygu Grŵp Ymchwil Prosiect SIARC, i gyfarfod bob chwarter, er mwyn rhannu darganfyddiadau, arbenigedd, profiad ac ymchwil cyfredol rhwng sefydliadau.
Cysylltwch
Os ydych yn ymchwilydd neu’n sefydliad sy’n gweithio ar elasmobranchiaid yng Nghymru, cysylltwch â ni ar SIARC@zsl.org i ddysgu mwy.
siarc@zsl.org